CYFLWYNIAD:

Pwy ydum ni? / Amdanom Ni:

Mae Clwb Gwyddbwyll Bae Colwyn yn un or clybiau mwyaf hynafol yng Nghymru, ond bellach mae wedi ei leoli yn adeilad Canolfan Cymuned Parkway ar gyfer ardal Llandrillo-yn-Rhôs.  Yn yr lleoliad newydd yma gellir ymlacio wrth chware gêm gyfeillgar mewn awyrgylch cyffyrddus, gyda digonedd o olau a lle.  Hefyd, yn y Ganolfan mae yna darpariaeth o ystafell cegin arbennig sydd wedi ei lenwi gyda offer dibenion arlwyo da, gan gwynus offer gwneud te a coffi.

Pwy gall ymuno?

Agored i bawb – mae yna mynediad wedi ei raddio ar gael i’r Ganolfan sydd heb risiau.  Hefyd, yn y Ganolfan mae yna ddarpariaeth o ystafell doiled wedi ei cynllunio gyda anghenion defnyddwyr cadair olwyn mewn golwg.  Mae croeso cynes i chwaraewyr o bob gallu i ymuno a’r clwb.  Fel enghraifft, ar un pegwn mae rhai aelodau newydd dim ond yn dechrau dysgu chware y gem.  Ar y pegwn arall mae rhai aelodau hen a presennol wedi cyrraedd y graddau gallu canlynol: Ymgeisydd Meistr, Pencampwr Cymru ac hefyd Pencampwr Iau y Deyrnas Unedig.

Gwyddbwyll cymdeithasol a chystadleuol:

 

Mae’r clwb yn cofrestru timau yn yng nghystadlaethau Cynghrair Caer a Gogledd Cymru ac hefyd Cynghrair Tîm Gwynedd.  Mae’r ddau gynghrair yma gyda nifer hafal o emau cantref a sydd o emau i ffwrdd sydd o ganlyniad yn golygu teithio.  Weithiau mae angen teithio cyn belled a Caer a Wrecsam neu Caernarfon a Bangor.  Ar nosweithiau y mae y tîm yn chware gem oddi cartref mae y clwb yn ymgynnull 4 aelod i fynd ar daith, ac felly ar y cyfryw rydem yn trefeillio gyda’n gilydd mewn un car.  Mae chwaraewr sydd dim eisiau trefeillio ond dal gyda awydd chwarae gemau cystadleuol yn gallu ymuno cystadleuaeth mewnol y clwb. 

Polisi y clwb ar gyfer pobl ifanc:

Mae croeso cynes ar gael ar gyfer pobl ifanc sydd yn mynychu y clwb ac yn chwarae yn y clwb.  Fodd bynnag, mae’n arferol bod oedolyn cyfrifol hefyd yn bresennol, ac rydym hefyd yn annog yr arferiad hwn.  Does dim gofyniad angenrheidiol i’r oedolyn cyfrifol ymuno yn y chwarae, ac mae mannau disgwyl cyfforddus sydd allan or ffordd yn y prif ystafell chware.  Gall pobl ifanc cael ei adael heb oruchwyliaeth ar yr amod bod ymwadiad yn cael ei arwyddo gan eu rhiant neu gwarchodydd cyfreithiol.

Aelodau newydd:

Mae aelodau newydd hefyd yn gallu troi fynnu ad-hoc ar unrhyw nos Fawrth, er hynn mae o bosib yn mwy ddoeth i gysylltu a ni ymlaen llaw.  Gallwch gysylltu a ni ymlaen llaw gan ddefnyddio y cyfeiriad issod:

ColwynBayChess wedi ei dilyn gyda @petrog.co.uk 

Rhaid nodi bod y cyfeiriad e-bost uchod wedi ei rhannu mewn ymgais i rhwsto meddalwedd casglu cyferiadau e-bost.  Nawr gallwch weld bod IKEA yn gwneud pecynnau fflat ar gyfer cyfeiriadau e-bost hefyd.

Noswaith Clwb:

£ : – Beth yw cost mynychu y clwb?

Mae’r ddau ymweliad cyntaf i’r clwb yn rhad ac am ddim i bawb.  Ar ol hynna, rydem yn gofyn i chwaraewr dalu £2 y nos (£1 y nos i bobl ifanc), a hefyd tanysgrifiad o £10 (£5 i bobl ifanc).

Copi o lun criw clwb gwyddbwyll Bae Colwyn cyn y pandemig, wedi ei dynnu o cynnwus ei hen gwefan.  Mae’r wefan yma bellach ychydig yn anghywir yn nhermau gwybodaeth presennol.  Yn anffodus, mae yna problem yn parhau gyda diweddaru’r wefan hon, oherwydd nad oes gan unrhyw un syniad sut i fynnych y safle ar gyfer e’i  olygu.  Pwy a ŵyr, a’i chi yw gweinyddwr hanesyddol ac efallai diarwybod presennol yr adborth: colwynbaychess.org.uk?  Ni byddaf yn rhoi dolen i’r hen safle yma, oherwydd nid yw’r hen wefan yn defnyddio SSL ac y gall felly bod yn niweidiol i chi o ran eich diogelwch ar y we.

Ymysodiad Dewr; Amddifyniad Sicr.